Twoclicks | Website Designers Cardiff | Welsh Website Design

Beth yw WebBuilder?

'WebBuilder' yw ein system unigryw ar gyfer adeiladu a rheoli cynnwys eich gwefan.

Bydd safleoedd sy'n defnyddio'r system 'WebBuilder' yn gallu cael eu newid yn ddidrafferth drwy ddefnyddio panel rheoli sy'n hawdd ei ddefnyddio. Mae hyn yn rhoi hyblygrwydd llwyr i chi addasu a newid eich gwefan ar ôl iddi gael ei chreu, heb fod angen gwybodaeth arbenigol am gyfrifiaduron.

Mae'n golygu y byddwch chi’n gallu diweddaru'ch gwefan eich hun, heb orfod cysylltu â ni i wneud y newidiadau ar eich rhan - gan arbed arian i chi yn y pen draw.

Hefyd, mae gan WebBuilder lwyth o opsiynau ychwanegol ar gyfer creu catalogau o'r cynnyrch a basgedi siopa, caniatáu i ddefnyddiwr gofrestru ar eich safle, a chynhyrchu incwm o gynnwys eich safle.

I ddarllen mwy am 'WebBuilder' a sut y gallai weithio ar eich safle, cliciwch ar y ddolen isod.