Twoclicks | Website Designers Cardiff | Welsh Website Design
Amdanom ni
Mae TwoClicks yn gwmni dylunio a datblygu gwefannau wedi'i leoli yng Nghaerdydd, Cymru.
Mae gennym dros 10 mlynedd o brofiad o adeiladu gwefannau a chymwysiadau i’r we i amrywiaeth eang o gwmnïau a sefydliadau yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus.
Rydyn ni'n ymfalchïo yn ein gallu i adeiladu meddalwedd eithriadol, sy'n ddeniadol ac yn hawdd ei defnyddio.
Rydyn ni'n falch ein bod yn gweithio yng Nghymru, ac yn falch o'n cysylltiad â’r iaith Gymraeg. Dyna pam bod ein system rheoli cynnwys 'WebBuilder' yn gwbl ddwyieithog, felly gallwch ddewis defnyddio testun Cymraeg/Saesneg.

